Annwyl Cyllid Cymru,
Diolch i chi am ddod i'r Pwyllgor ar 9 Tachwedd 2016 er mwyn ein galluogi i graffu ar eich adroddiad blynyddol.
Yn ystod y cyfarfod cynigiodd Mr Thorley roi nodyn i'r Pwyllgor ynghylch cyfanswm yr enillion ar y buddsoddiad o ran y pedwar buddsoddiad a wnaeth golled (yn eu cyfanrwydd).
Cododd y sesiwn nifer o gwestiynau yr hoffem gael rhagor o esboniad yn eu cylch, ac rydym hefyd wedi mynd ati i wneud rhai argymhellion i Gyllid Cymru, a byddwn hefyd yn rhannu'r rhain gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith.
Cwestiynau
Cyllid cyfalaf
Disgrifiodd Mr Thorley y cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru fel "yr angor" o ran ffynonellau cyllid cyfalaf yn y dyfodol.
Hoffem gael rhagor o eglurder, maes o law, ynghylch goblygiadau hyn.
Rheoli risg
O gofio'r cynnydd yn y capasiti benthyca a ragwelir ar gyfer y Banc Datblygu, bydd hyn hefyd yn arwain at fwy o risg i Lywodraeth Cymru.
Er nad yw gofynion darbodus arferol yn gymwys i Gyllid Cymru, hoffem gael rhagor o wybodaeth ynghylch pa gamau sy'n cael eu cymryd i reoli maint y risg.
Er enghraifft, a fyddai dyledion nad ydynt wedi eu talu yn cael eu gwarantu gan Lywodraeth Cymru, neu a fyddai rhyw fath o ofyniad cyfalaf i wella'r broses o reoli risg yn cael ei roi ar waith?
Cynllun Cymorth i Brynu
Mae'r cynllun hwn wedi'i seilio ar fenthyciad a gaiff ei ad-dalu (i Drysorlys Ei Mawrhydi); tybir y bydd y benthyciad hwn yn cael ei warantu yn y pen draw gan Lywodraeth Cymru. Hoffem gael nodyn ynghylch telerau'r benthyciad hwn, yn ogystal â diweddariad blynyddol ar y camau a gymerir i'w ad-dalu.
Pensiynau
Gwnaethom nodi bod y cynnydd yn nhâl y cyfarwyddwr a enillodd y cyflog uchaf yn 2015-16 wedi'i chwyddo gan gyfraniadau pensiwn; a bod 30 y cant o staff presennol Cyllid Cymru yn yr un cynllun. A allwch ein sicrhau bod yr achos busnes ar gyfer y Banc Datblygu wedi ystyried y risg actiwaraidd hwn?
Argymhellion
Proses adrodd
Mewn ymateb i'n cwestiynau ynghylch y colledion a gofnodwyd ar gyfer 2014-15, roeddech yn gallu ein sicrhau nad oedd hyn yn rhoi darlun cywir o wir sefyllfa ariannol y sefydliad.
Dywedodd Kevin O'Leary: “I don’t believe the committee should be concerned by that loss… Our accounts are not a good entry in to understanding Finance Wales’ performance.”
O ystyried nad yw'r dull presennol o gyflwyno adroddiadau yn rhoi darlun clir, argymhellwn fod Cyllid Cymru yn ystyried - wrth gydnabod ei rwymedigaethau adrodd statudol - sut y gall gyflwyno ei gyfrifon blynyddol mewn ffordd sy'n rhoi darlun cliriach o berfformiad y sefydliad ac sy'n galluogi trethdalwyr Cymru i weld a yw eu harian wedi'i fuddsoddi mewn ffordd sy'n arwain at fanteision. Gallai hyn fod yn rhan o'r cyfrifon blynyddol, neu'n rhywbeth ychwanegol.
Hunan-ariannu
Gofynnodd y Pwyllgor gyfres o gwestiynau ynghylch gallu Cyllid Cymru i symud tuag at fodel hunangyllidol, a hynny heb dderbyn cymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Dywedasoch wrthym fod hyn yn ddibynnol ar godi lefel y cronfeydd sy'n cael eu buddsoddi, er mwyn i'r ffioedd perthnasol fod yn ddigonol i dalu costau'r sefydliad.
Nodwn y bydd risgiau wrth symud tuag at fodel hunangyllidol a byddwn yn codi'r mater hwn gyda'r Ysgrifennydd Cabinet.
Risg adleoli
Mae'n debyg y bydd newid lleoliad Cyllid Cymru sydd â'i bencadlys yng Nghaerdydd, i Ogledd Ddwyrain Cymru lle lleolir pencadlys Banc Datblygu Cymru, yn arwain at risg - un sy'n gyffredin ym mhob menter adleoli - na fydd staff yn dymuno symud. Rydym yn sylweddoli nad yw'r achos busnes wedi cael ei gyhoeddi eto, ond rydym yn deall bod angen ystyried y risg o golli staff, a'r costau sy'n gysylltiedig â recriwtio a / neu becynnau adleoli, yn y cynllun busnes.
Maes o law, hoffem gael rhagor o wybodaeth am sut y mae'r risg adleoli yn cael ei asesu; y costau posibl; a'r opsiynau a ddewisir i liniaru'r rhain.
Yn gywir,
Russell George
Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau